Rhif y ddeiseb: P-06-1354

Teitl y ddeiseb: Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi rasio milgwn yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb: Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ystyried gwahardd rasio milgwn yng Nghymru.

Mae'r gwaharddiad posibl hwn wedi'i gyflwyno drwy ddeiseb a gyflwynwyd gan elusen. Rwyf fi o’r farn nad oedd y wybodaeth a ddefnyddiwyd i greu’r ddeiseb honno yn ffeithiol gywir, a’u bod wedi defnyddio ffigurau a oedd wedi’u chwyddo’n aruthrol o ran nifer y milgwn a gaiff eu hanafu, a hynny heb ddim tystiolaeth ategol. Mae'r elusen wedi cael cais am dystiolaeth ar sawl achlysur ond mae wedi gwrthod. Cafodd y ddeiseb 35,000 o lofnodion ond roedd llai na 19,000 o'r llofnodion hyn o Gymru.

Byddai gwahardd rasio milgwn yn cael effaith economaidd ar unigolion sy'n ymwneud â'r diwydiant. Byddai effaith uniongyrchol hefyd ar y Stadiwm y Cwm, a datblygiad tymor canolig a hirdymor ardal Ystrad Mynach.

Byddai effaith negyddol hefyd ar frid y milgi.

Mae Stadiwm Milgwn y Cwm yn y broses o ddod yn drac cofrestredig GBGB.

 

Mae'n rhaid i bob trac a drwyddedir gan GBGB gadw at Reolau Rasio'r rheolydd sy'n ceisio cynnal y safonau uchaf oll o ran lles a chywirdeb trin milgwn. Mae dros 200 o reolau sy'n ymwneud â phob agwedd ar sut mae'r gamp yn cael ei chynnal a'i rheoleiddio, gan gynnwys sut y gofelir am filgwn pan fyddant ar y trac, gartref yng nghytiau preswyl eu hyfforddwr, wrth gael eu cludo ac yng nghyfnod eu hymddeoliad.

Ar hyn o bryd mae gan y Senedd grŵp trawsbleidiol i gefnogi rasio ceffylau yng Nghymru, a gofynnwn am i’r un gefnogaeth gael ei dangos i rasio milgwn.


1.        Cefndir

1.1.            Trac milgwn yng Nghymru

Mae gan Gymru un trac milgwn sy’n eiddo preifat, Stadiwm Milgwn y Cwm, Ystrad Mynach, sydd fel arfer yn cynnal rasys wythnosol.

Mae Stadiwm y Cwm yn un o dri thrac rasio annibynnol yn y DU, sydd wedi’u trwyddedu gan yr awdurdod lleol. Mae 19 o draciau rasio pellach wedi'u trwyddedu gan Fwrdd Milgwn Prydain Fawr. Mae rheolau ychwanegol ar gyfer traciau Bwrdd Milgwn Prydain Fawr, sydd wedi’u llunio i ddiogelu lles yr anifeiliaid (megis presenoldeb milfeddygon). Yn 2022, cyhoeddodd y Bwrdd Milgwn weledigaeth strategol newydd i hyrwyddo ac amddiffyn llesiant ymhellach ar draws pob cyfnod o fywyd milgwn.

Prynwyd trac Stadiwm y Cwm gan Dave Barclay ym mis Tachwedd 2021. Y bwriad yw rhedeg y trac fel trac rasio sydd wedi’i drwyddedu gan y Bwrdd Milgwn ac iddo gael ei drwyddedu erbyn Ionawr 2024. Mae'r stadiwm yn yn cael ei ddatblygu er mwyn iddo gael ei ddefnyddio fel un o draciau rasio Bwrdd Milgwn Prydain Fawr. Mae'n bwriadu cynyddu nifer y rasys i bedair gwaith yr wythnos. Rhoddwyd caniatâd cynllunio yn ddiweddar i Stadiwm y Cwm i ymestyn ei adeilad clwb i wneud lle ar gyfer mwy o gyfleusterau lletygarwch a milfeddygol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi clywed yn flaenorol, er bod cofrestru o dan safonau diwydiant Bwrdd Milgwn Prydain Fawr yn debygol o arwain at safonau gwell o ran llesiant, bod sefydliadau llesiant yn pryderu y gallai cynnydd yn nifer y rasys arwain at gynnydd yn nifer y cŵn dros ben a nifer yr anafiadau.

1.2.          Rheoleiddio

Mae Deddf Lles Anifeiliaid 2006, (Deddf 2006) yn cynnwys darpariaethau cyffredinol yn ymwneud â lles anifeiliaid. Mae Deddf 2006 yn caniatáu cymryd camau pan fo tystiolaeth ar gael yn ymwneud â chreulondeb i anifail neu fethiant i ddarparu ar gyfer anghenion lles anifail. Gallai'r darpariaethau hyn fod yn gymwys pan fo milgwn ar draciau neu'n cael eu cadw mewn cytiau hyfforddwyr. 

Mae adran 13 o Ddeddf 2006 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gyflwyno cynlluniau trwyddedu i ddiogelu lles anifeiliaid.

Yn Lloegr, gwnaed rheoliadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Adran 13 o Ddeddf 2006; Rheoliadau Lles Milgwn Rasio 2010. Nod y rhain yw diogelu milgwn sy’n rasio yn Lloegr a darparu bod yn rhaid i bob gweithredwr traciau rasio milgwn gael trwydded.

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw amddiffyniadau cyfreithiol penodol ar gyfer rasio milgwn yng Nghymru.

Mae'n ofynnol i geidwaid milgwn gydymffurfio â Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007. Mae’n drosedd cludo unrhyw anifail mewn ffordd sy'n achosi, neu'n debygol o achosi, anaf neu ddioddefaint diangen i'r anifail.

1.3.          Barn rhanddeiliaid

Ym mis Medi 2022 bu i nifer o sefydliadau lles anifeiliaid - Dogs Trust, RSPCA, Blue Cross, Hope Rescue ac Achub Milgwn Cymru – lansio  Cut the Chase, ymgyrch newydd i wahardd rasio milgwn yn y DU. Maent yn gobeithio y bydd Cymru yn arwain y blaen i wledydd eraill y DU ei dilyn.

Cafodd y ddeiseb i’r Senedd P-06-1253 “Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru”  ei ystyried gan y Pwyllgor Deisebau yn 2022/23. Casglodd y Pwyllgor dystiolaeth gan grwpiau lles anifeiliaid. Dywedodd cynrychiolydd o Hope Rescue:

Based on GBGB's own statistics for 2021, we're likely to see around 232 injuries if Valley goes ahead and becomes a GBGB track, and around 10 to 15 deaths every year. Now, that's a huge leap from the figures we're currently seeing at Valley. 

Gwnaeth y Pwyllgor hefyd gymryd tystiolaeth gan gynrychiolwyr Stadiwm y Cwm, Bwrdd Milgwn Prydain Fawr, a Premier Greyhound Racing. Dywedodd cyn-berchennog Stadiwm y Cwm, Malcolm Tams, naid oedd sail i ystadegau Hope Rescue. Dywedodd:

We've been inspected by Caerphilly council eight times in the last 12 months, and the report is in here—they found nothing wrong with the track whatsoever. They brought an independent vet who inspected all the greyhounds and found them to be in good welfare conditions, totally in contrast to what was said by Hope—totally.

Cyhoeddodd Cyngor Caerffili uwchgynllun ar gyfer Ystrad Mynach yn 2019. O ran Stadiwm y Cwm, mae’n nodi:

It is ideally located to capitalise on the many visitors to the area and there is opportunity to expand and increase the potential of the site as a tourism destination. Furthermore, there is opportunity for spin-off between this site and potential hotel and restaurant development on adjacent land.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar ddeiseb P-06-1253 "Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru", dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths ('y Gweinidog'):

We intend to consult on proposals for the licensing of activities involving animals later this year [2023]. The consultation will also seek views on how to improve the welfare of racing greyhounds in Wales.

A question considering a phased ban will be included in the consultation. The outcome of the consultation and what action will be taken cannot be pre-empted.

Mae’r Cod Ymarfer Gwirfoddol ar gyfer Lles Milgwn Rasio gan Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru/Llywodraeth Cymru yn egluro beth mae'n rhaid i geidwaid milgwn rasio ei wneud i fodloni'r safonau gofal sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Mae Cod Ymarfer er Lles Cŵn Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru/Llywodraeth Cymru yn berthnasol i bob ci, gan gynnwys milgwn. Diben y Cod yw annog pawb sy'n gyfrifol am gŵn i fabwysiadu'r safonau uchaf.

3.     Camau gan Senedd Cymru

Fel y trafodwyd, bu'r Pwyllgor Deisebau yn ystyried y ddeiseb P-06-1253 "Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru". Casglodd y Pwyllgor dystiolaeth ac yn ei adroddiad (Rhagfyr 2022) daeth i’r casgliad a ganlyn:

Ar ôl ystyried y dystiolaeth gan elusennau anifeiliaid a’r diwydiant, gan gynnwys y camau sydd eisoes wedi’u cymryd ac sydd ar y gweill i wella lles anifeiliaid, ein casgliad mwyafrifol yw cefnogi’r galwadau cynyddol am waharddiad ar rasio milgwn yng Nghymru.

Er bod gan un Aelod bryderon ynghylch cefnogi gwaharddiad, rydym i gyd yn gytûn y dylai Llywodraeth Cymru ystyried pob opsiwn wrth ymgynghori ar drefniadau yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod lles milgwn yn hollbwysig – ar bob cam o’u bywydau.

Cynhaliodd y Senedd ddadl ar y ddeiseb hon yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Mawrth 2023. Ymatebodd y Gweinidog i'r ddadl:

rwyf wedi ymrwymo i ymgynghori ar gynigion, a fydd yn cynnwys ceisio safbwyntiau ar drwyddedu a gwahardd rasio milgwn yng Nghymru.  Byddwn yn archwilio pob opsiwn a byddwn yn ystyried barn y cyhoedd a'r holl randdeiliaid.  Er bod angen trafodaethau ynghylch gwaharddiad llwyr ac wrth gwrs fe fydd yn creu penawdau, mae'n hanfodol ein bod yn ystyried y pwnc mewn ffordd resymol a phriodol.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.